P-06-1246 Cael gwared ar y terfyn niferoedd ar gyfer cynulliadau awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau cymunedol barhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth Howell, ar ôl casglu cyfanswm o 2,488 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod terfyn llym o 50 o bobl ar gyfer digwyddiadau yn yr awyr agored o Ŵyl San Steffan ymlaen. Mae hyn yn golygu’n syth nad yw nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn bosibl mwyach, fel cynulliadau tymhorol a digwyddiadau parkrun, sydd mor bwysig i iechyd meddwl ac iechyd corfforol y genedl yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae gwahardd y digwyddiadau hyn yn greulon, yn anghymesur ac yn groes i’r holl dystiolaeth sydd ar gael ynghylch lledaeniad COVID yn yr awyr agored, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith..

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae nifer o’r digwyddiadau hyn eisoes yn ddarostyngedig i asesiadau risg trylwyr i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn ffordd sy’n golygu lefel dderbyniol o risg o ran COVID, fel bod cyfranogwyr yn rhydd i benderfynu beth sydd orau iddynt. Gweler y ‘parkrun Covid framework’ fel esiampl.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y fframweithiau hyn yn annigonol ar gyfer diogelu’r cyhoedd ac mae’n hynod o anghyfrifol, yn ein barn ni, fod chwaraeon cymunedol yn cael eu hatal “rhag ofn” wrth gloriannu manteision parhau â’r digwyddiadau hyn ar y un llaw a’r risgiau ar y llaw arall.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru